|
 |
| Siarter
y Feddygfa |
- Bydd meddygon a'r nyrsus yn ceisio cadw at oriau'r feddygfa fel y mynegir.
- Os bydd oediad o fwy na 30 munud ar ol amser eich apwyntiad, byddwch yn cael gwybod y rheswm pam.
- Os byddwch angen apwyntiad ar frys, cewch gynnig un ar yr un diwrnod neu gael siarad yn uniongyrfhol gyda'r meddyg.
- Cewch gynnig apwyntiad cyffredinol gyda meddyg o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
- Os dymunwch weld meddyg neu nyrs o'ch dewis, ni ddylech ddisgwyl mwy na 4 diwrnod gwaith cyn derbyn apwyntiad. Gall absenoldeb, rhannu swydd, meddyg rhan amser a gweithio mewn mwy nag un meddygfa effeithio ar hyn.
- Bydd plant sy'n sal pob tro yn cael eu gweld ar y diwrnod pan ofynnir am apwyntiad
- Bydd ail-ddarnodi ar gael o fewn 2 diwrnod gwaith o'r amser a ofynnir amdano.
- Bydd y feddygfa'n ceisio datrys unrhyw anfodlonrwydd gennych. Peidiwch ag ofni trafod eich problemau ond, os gwelwch yn dda, siaradwch gydag aelod cyfrifol o'r staff.
- Tu allan i oriau'r feddygfa, dylech fedru cystylltu a'r meddyg o fewn 2 alwad ffon.
Mae hawl gennych i:
- Gofrestru gyda meddyg.
- Newid eich meddyg.
- Dderbyn copi o daflen y feddygfa sy'n rhestru'r gwasanaethau
ar gael.
- Gael cynnig prawf iechyd wrth ymuno a rhestr meddyg am y tro
cyntaf.
- Dderbyn gofal meddygol ar frys gan feddyg unrhyw amser.
- Dderbyn cyffuriau a meddyginiaethau priodol.
- Gael eich cyfeirio at arbenigwr/wraig yn ol cyngor eich meddyg.
Gallwch drafod y dewis o arbenigwr gyda'ch meddyg.
- Gael gweld eich cofnodion meddygol, heblaw bod unrhyw gyfyngiad
cyfreithiol, ac i wybod fod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd o dan
ddyletswydd cyfreithiol i'w cadw'n gyfrinachol.
- Ddewis i gymryd rhan neu peidio mewn ymchwiliad meddygol neu
hyfforddiant myfyrwyr meddygol.
- Dderbyn ateb llawn a sydyn i unrhyw gwyn, canmoliaeth neu awgrym
am y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Cofiwch, mae gennych chwi gyfrifoldeb mawr am eich
iechyd, cymerwch sylw o'r cyngor a'r awgrymiadau a roddir os gwelwch
yn dda. |
|
|