Logo meddygfa  
Health Services Centre, Wynne Road, Blaenau Ffestiniog LL41 3DW

 

 
 

Tim nyrsio ardal Blaenau Ffestiniog
Rydym yn dim o bum nyrs aml-ddisgyblaethol sy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Ganolfan Iechyd, yr Ysbyty Cymunedol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Darparwn ofal parhaol i bobl o bob oedran yn eu cartrefi yn ogystal a thrigolion y cartrefi preswyl yn Llan Ffestiniog. Mae'r gwasanaeth yn parhau'n ddid-dor trwy'r flwyddyn. Yn ogystal a hyn, 'rydym yn gyfrifol am y Clinig Trin Briwiau (11.30 - 12.30 yn y Ganolfan - trwy apwyntiad). Cewch gysylltu a ni a'r gwasanaeth hospis drwy ffonio (01766) 831281.