Logo meddygfa  
Health Services Centre, Wynne Road, Blaenau Ffestiniog LL41 3DW

 

 
 

Pwy gwasanaethau rydym yn cynnig?

Llawfeddygaeth Syml
Trefnir sesiynau llawfeddygaeth syml i geisio osgoi aros hir am apwyntiad ysbyty. Gall y meddyg eich cynghori pa driniaethau sydd yn bosibl am Y Feddygfa.


Clinigau Gwyliadwriaeth Plant Canolfan Gwasanaethau Iechyd

Clinig pob Dydd Mawrth 1af, 3ydd a’r 4ydd o’r mis - 2.00yh hyd at 3.00yh
Dim clinig ar y 5ed Dydd Mawrth.

Llan: Clinig pob 2ail Ddydd Mawrth - 1.15yh hyd at 1.45yh

Brechu Oedolion

Os oes arnoch angen brechiadau rhag tetanws neu barlys y plant (polio), trefnwch apwntiad gyda'r nyrs.

Brechiadau cyn teithio dramor
Gall y nyrsus yn y practis gynnig cyngor am yr anghenion cyn teithio a rhoi cyngor i chwi am nifer o faterion perthnasol. Ond y mae'n bwysig eich bod yn cynllunio ddigon ymlaen llaw yn hytrach na gadael popeth tan y funud olaf.
Yr ydym bellach yn Ganolfan Brechu rhag y Dwymyn Felen (Yellow fever), I unrhyw un, os yw ar restr meddyg yma ai peidio.

Brechiad rhag y ffliw
O ddechrau Hydref trefnir clinigau brechu rhag y ffliw yn Blaenau. Gall y derbynwragedd roddi mwy o fanylion i chwi.

Profion gwddf y groth
Cewch nodyn drwy'r post i'ch atgoffa pan fydd yn amser y prawf hwn unwaith eto, ond os na ydych yn sicr, holwch. Dywedwch beth sydd angen arnoch wrth drefnu'r apwntiad, a dowch a photelaid fechen o'ch dwr gyda chwi.

Gwasanaethau meddygol preifat
Nid yw'r GIG yn gyfrifol am bob gwasanaeth. Efallai y bydd rhaid i chwi dalu am rai o'r gwasanaethau hyn, megis tystysgrifau meddygol preifat, archwiliadau meddygol ac adroddiad i gyflogwyr, cyfreithwyr, cwmniau yswiriant trwydded gyrru bysia, trwydded gyrru loriau, yswiriant gyrru i bobl hyn, ac yn y blaen. Gall y derbynwragedd ddweud wrthych beth yw'r ffi gyfredol am y gwahanol wasanaethau.

Ambiwlans
Os na fedrwch fynd i'r ysbyty neu i glinig eich hun a bod angen ambiwlans arnoch, ffoniwch Archebu Cludiant i Ysbyty ar 08456076181 roi o leiaf deuddydd o rybudd.